Darlith Aled Gwyn 2014

Darlith Aled Gwyn 2014

Mae’n rhaid fod lleisiau Bois Parcnest wedi cael eu gwneud yn bwrpasol i ynganu barddoniaeth eu harwr, Waldo Williams. Clywid tinc ysgafn y Ddyfedeg yn llais yr ieuengaf o’r tri, Aled Gwyn, wrth iddo ddyfynnu talpau o gerddi’r bardd pan draddododd Ddarlith Flynyddol Cymdeithas Waldo ar y testun ‘Mor agos at ei gilydd y deuem’ yng Nghas-mael, yng Ngogledd Sir Benfro, ar nos Wener, Medi 26, 2014. Y pryder rhagblaen oedd mai myned i gors a honno o faintioli Dyfroedd Mara fyddai hynt y darlithydd gan fod cofiant sylweddol Alan Llwyd i Waldo, a lansiwyd yr un noson, yn nodi mai `ein gilydd` oedd y sillafiad cywir o’r llinell o’r gerdd ‘Mewn Dau Gae’. Mae’r gerdd i’w gweld yn llawysgrifen Waldo ei hun yn y gyfrol. Tystiolaeth di-droi nôl felly?

Emyr Llewelyn gyda theulu Waldo
Emyr Llewelyn gyda theulu Waldo

Sut ddaeth Aled Gwyn o’r gors? Wel, yn ddeheuig. Mynegodd syndod na fyddai’r ‘nam’ wedi’i gywiro yn y gwahanol gyhoeddiadau o’r gerdd a fu. Mynegodd syndod nad oedd y darllenwyr proflenni gwreiddiol wedi sylwi. Mynegodd syndod nad oedd Waldo ei hun erioed wedi tynnu sylw at hyn. Maentumiodd fod Waldo, hwyrach, yn gweld y llithriad – os llithriad – yn cryfhau’r llinell am ei fod yn adlewyrchu’r Ddyfedeg yn ei gogoniant llafar. Daeth Aled i’r lan yn ddianaf ac yn sych gorcyn. Aeth yn ei flaen i nodi nad oedd yr anghytundeb gramadegol hwn yn amharu dim ar fawredd ystyr y llinell sef cyfleu’r empathi rhyfeddol oedd gan Waldo tuag at ei gyd-ddyn. Fel gweinidog ordeiniedig cyfeiriodd Aled at hanes Philemon ac Onesimus a chyngor Paul iddyn nhw, fel meistr a gwas, i fod yn frodyr cydradd yn yr Iesu. Cyfeiriodd at ddatganiad un o’r esgobion Pabyddol cyfoes yn sôn am y Pab Ffransis fel un ‘sydd gyda mi ac nid uwch fy mhen i’. Dyna oedd neges fawr Waldo, meddai’r darlithydd, sef y gallu i fod yn un ac arall.

Alan Llwyd yn llofnodi copiau
Alan Llwyd yn llofnodi copiau

Eglurodd hyn ymhellach trwy sôn am ‘neurone empathy’ ymhlith anifeiliaid. Fe wna’r mwnci iach fynd ati i helpu’r mwnci cloff yn reddfol, meddai. Gwelodd y ddawn hon ar ei amlycaf yn Waldo pan oedd yn ei dostrwydd yn Ysbyty Hwlffordd ac am wybod hynt ei gyd-glaf yn y gwely nesaf a oedd wedi’i symud i Ysbyty Glangwili. Yr un pryd holai hynt yr ieuenctid hynny oedd yn dyfynnu ei farddoniaeth mewn achosion llys pan frwydrent o blaid einioes y Gymraeg. Rhoddai eu parodrwydd i gydnabod ei farddoniaeth o dan y fath amgylchiadau foddhad cynnes iddo. Wedi’r cyfan, cyflwyno Dail Pren fel iachâd i’r genedl oedd ei amcan. Holodd Aled ei hun o ble y daeth y ddawn ryfeddol yma a ddisgrifiodd fel `gallu i fedru deall dioddefaint eraill ac sydd yn ei dro yn ein hysbrydoli ni heddiw`. Maentumiodd mai’r aelwyd oedd y tarddiad. Dychmygodd Waldo’n gwrando ar ei rieni yn darllen cerddi Tennyson a’i debyg o dan y goeden dderw honno ym Mharc y Blawd yn Llandysilio. O ganlyniad meithrinwyd y cadernid tawel hwnnw a’r grym ysgubol a berthynai iddo a amlygir mewn cerddi fel ‘Preseli’ a ‘Tyddewi’. Ni fyddai darlith am Waldo’n gyflawn heb gyfeiriad at ei smaldod a’i hiwmor. Clywsom amdano ar ddiwrnod rali’r gwrth-arwisgo yng Nghaernarfon yn 1969. Cychwynnodd ei siwrne trwy gerdded ben bore.

Daeth Aled ar ei draws yng nghaffi senedd-dŷ Owain Glyndŵr ym Machynlleth. Cwynai am ei draed – ‘ma’r cyrn ma fyti’n lladd i’. Prin ei fod am drafod arwyddocâd gwleidyddol yr arwisgo. Pan ddaeth yn amser ymuno â’r rali fe ddiflannodd am ei fod wedi cofio’n sydyn fod ‘rhaid i fi ga’l pishyn o gig erbyn fory’! Pan safodd fel ymgeisydd seneddol yn Sir Benfro yn 1959 wedyn cafwyd hwyl ar ganfasio ym mhentref Tre-fin. Croeso a bwyd a drws agored ymhob man. Yn wir, aethpwyd yno ar dri achlysur gymaint oedd y croeso. Ond pan ddaeth noson cyfrif y pleidleisiau dim ond dyrnaid oedd ym mocs Tre-fin i Blaid Cymru o gymharu â’r pleidleisiau Llafur a Thorïaidd niferus. Nid dannod a wnâi Waldo o weld siom ei asiant, Eirwyn Charles, a hanai o gyffiniau Tre-fin, ond llunio pennill: Argyhoeddasom Dre-fin, do, deirgwaith. Buom yno’n rhannu gwin yn yr heniaith. Ni chawson yr un nòd oddi yna – rheiny i gyd i ddod, haleliwia Tynnodd Aled Gwyn sylw at eironi’r ffaith ein bod yn cofio a chlodfori heddychwr digymrodedd ar yr union ddiwrnod y penderfynodd llywodraeth Prydain ymuno â’r ymgyrch i ollwng bomiau ar garfan Islamaidd yn Irac. Mynnai mai cydymdeimlo â’r ‘pentrefi oer a marw llawn penglogau’ fyddai empathi brawdol Waldo mewn amgylchiadau rhyfel.

Cyfeiriodd at gladdfa arfau Trecŵn gerllaw a’r hyn a achosai’r cryd ar Waldo sef arfer y gweithwyr yno o bacio bomiau i’w hanfon i’r India un wythnos ac yna pacio arfau i’w hanfon i Bacistan yr wythnos ddilynol er mwyn parhau’r rhyfel rhwng y ddwy wlad. Wrth lansio ei gofiant diolchodd Alan Llwyd i David Williams – un o nifer o neiaint Waldo oedd yn bresennol – yn arbennig am ganiatáu iddo weld deunydd a oedd yn taflu goleuni newydd ar gerddi ei ewythr ac am ganfod cerddi nad oedden nhw wedi gweld golau ddydd o’r blaen. Yn ei sylwadau yntau yn gynharach yn y noson, wrth ddadorchuddio cofeb ar ymyl Waun Cas-mael, pwysleisiodd Emyr Llewelyn mai bardd y gobaith mawr oedd Waldo. Cyfeiriodd at y gerdd ‘Ar Weun Cas’mael’ lle sonia’r bardd am yr eithin yn blodeuo drachefn a’r hedydd i’w chlywed fry fel symbolau o derfyn ar ryfel rhyw ddydd. Canwyd y gerdd ‘Y Tangnefeddwyr’ gan Gôr Abergwaun ar gychwyn y noson. Llywiwyd y gweithgareddau gan Cerwyn Davies, cadeirydd Cymdeithas Waldo, yn ei ddull cartrefol arferol. Darparwyd lluniaeth i alluogi’r llond neuadd o gynulleidfa i gymdeithasu ar y terfyn ac i brynu copiau o gyfrol Alan Llwyd wedi’u llofnodi.