Darlith Emyr Llewelyn 2010

Darlith Emyr Llewelyn 2010

Traddodwyd Darlith Flynyddol gyntaf Cymdeithas Waldo yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu, gan Emyr Llewelyn ar nos Iau, Medi’r 30, 2010.

Rhoddodd fonclust i’r beirniaid llenyddol hynny sy’n dweud y dylid mynd ati i ailystyried arwyddocâd a gwerth barddoniaeth Waldo Williams.

Nid ymbellhau a sefyll nôl a ddylid ei wneud ond yn hytrach closio at ei fawredd a’i gofleidio oedd byrdwn sylwadau’r cyn-athro ysgol wrth gynnig dadansoddiad o’r awdl ‘Tŷ Ddewi’.

Cydnabyddir y gŵr o Ffostrasol yn un o’r dadansoddwyr praffaf o farddoniaeth Waldo ac fe brofwyd hynny unwaith yn rhagor wrth iddo esbonio bod y gerdd yn deillio o brofiad ysbrydol a gafodd Waldo ar ben Carn Llidi, ger Tyddewi, pan oedd yn grwt ifanc.

Euros Lewis yn llofnodi copiau o Linda (Gwraig Waldo)

Yn ogystal â dyrchafu Dewi Sant fel gŵr pur o galon dywedodd fod Waldo hefyd yn disgrifio’r berthynas rhwng Duw a’r ‘tŷ llwyth’ sef cenedl y Cymry. Dangosodd fod gan Waldo wybodaeth eang am y seintiau cynnar a’u heddychiaeth a’u hymrwymiadau i bethau’r galon.

Mynnodd mai anathema llwyr i’r bardd oedd athrawiaethau diwinyddol megis ‘Y Cwymp’ yng Ngardd Eden a ‘phechod gwreiddiol’ am ei fod yn credu mai’r galon dyner o dan gyfansoddiad dewr yw nodwedd pob gwir Gristion.

Wedi’r ddarlith lansiwyd fersiwn brintiedig o ddrama o waith Euros Lewis sy’n delio â chyfnod priodasol byr Waldo a Linda cyn ei marwolaeth annhymig. Cyn bwrw ati i lofnodi copïau o ‘Linda (Gwraig Waldo)’ dywedodd Euros mai’r hyn oedd wedi ei gymell i gyfansoddi’r ddrama oedd yr holl holi roedd e wedi’i wneud ei hunan ynghylch arwyddocad llawer o linellau Waldo, a’r un yn fwy na’r llinell honno,’Nid oes yng ngwreiddyn Bod un wywedigaeth’.

Cafodd Darlith Emyr Llewelyn ‘Tŷ Ddewi’ ei chyhoeddi mewn dwy ran yn Y Faner Newydd (Rhifynnau 53, 54) a olygir gan Emyr. Mae hefyd i’w chlywed yn ei chyfanrwydd fan hyn dim ond gwasgu’r cyfarwyddyd ar waelod y dudalen.

Y gynulleidfa yng Nghapel Bethel

Dyfyniad o’r ddarlith:

Er mwyn deall yr awdl rhaid sylweddoli nad Tŷ Ddewi yr eglwys gadeiriol yw testun y gerdd ond Tŷ Ddewi arall. Nid adeilad o goed a cherrig a folir yma ond tŷ ysbrydol. Codwyd y tŷ hwn o ‘feini annistryw’ sef gweithredoedd da a chyfiawn a wnaed ‘er Duw’.

Adeilad yw Tŷ Ddewi o werthoedd ac egwyddorion y bobl a fu’n byw ar y tir hwn ac a drosglwyddir drwy gyfrwng iaith o genhedlaeth i genhedlaeth – cyfalaf ysbrydol ein cenedl ni.

Dynion yn clywed galwad Duw arnyn nhw, ac a agorodd eu calonnau i Dduw oedd Dewi a’r seintiau cynnar a’u cymwynas fawr oedd adeiladu ‘tŷ llwyth nid o waith llaw’, sef creu gwerthoedd ac egwyddorion a delfrydau fyddai’n cael eu trosglwyddo o oes i oes drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Mae’n bwysig deall pam yr oedd Dewi Sant a’r seintiau Celtaidd yn arwyr i Waldo.

Roedd Dewi a’r seintiau eraill wedi eu dylanwadu gan feudwyaeth dynion a gefnodd ar lygredd y dinasoedd, ac a giliodd i’r diffeithwch yn yr Aifft, Palestina, Arabia a Phersia yn y bedwaredd ganrif oed Crist.

Symlrwydd oedd nod eu bywyd ac roedd ganddyn nhw lawer oedd yn gyffredin gyda’r Yogi yn India a’r mynach Sen yn Tsieina a Siapan. Nid ysgolheigion na diwinyddion oedden nhw, ond pobl isel, dawel oedd yn chwilio am burdeb calon. Roedden nhw’n cynnal eu hunain drwy lafur eu dwylo.

Bywyd o lafur caled, tlodi, gweddïo ac ymprydio, oedd bywyd Tadau’r Diffeithwch. Roedd y feudwyaeth Geltaidd a ysbrydolwyd ganddyn nhw yn cynnwys yr elfennau hyn, ond roedd hefyd yn anturus a dewr ac elusengar, ac yn ymdrechu i ennill y byd yn hytrach na chefnu arno.

Roedd Waldo yn edmygu pwyslais Tadau’r Diffeithwch a’r seintiau Celtaidd ar burdeb calon. Cadw’r galon yn bur i Dduw oedd eu

delfryd. Dilyn yr ysbryd oedd y peth pwysig ble bynnag y byddai’n eu harwain. Gellid dweud fod Dewi a’r seintiau Celtaidd yn dilyn cyfarwyddyd un o Dadau’r Diffeithwch, ‘Beth bynnag y gweli dy enaid yn ei ddymuno yn ôl Duw, gwna’r peth hwnnw, ac fe gedwi dy galon yn ddiogel.’

Rheswm arall dros edmygedd Waldo o Dewi Sant a’r seintiau eraill oedd mai eu teyrngarwch cyntaf oedd i Dduw, ac nid i wladwriaeth neu awdurdod dynion. Roedd y dynion hyn yn credu nad oes y fath beth yn bosibl â gwladwriaeth Gristnogol. Doedden nhw ddim yn ystyried fod ufudd-dod i rym daearol teyrn neu frenin yn uwch nag ufudd-dod dyn i’w gydwybod a Duw.

Daw’r wybodaeth am Dadau’r Diffeithwch o lyfr Thomas Merton, The Wisdom of the Desert, Burns and Oats 1997.

Gwrando ar y ddarlith

Back to top