Hil y gwynt a’r glaw a’r niwl

Hil y gwynt a’r glaw a’r niwl

Ar ddydd Sadwrn, 24 Medi, 2011, tywyswyd dros 80 o bererinion i fangreoedd yn Sir Benfro a gysylltir â bywyd Waldo. Cyfarfu’r criw yng Nghapel Blaenconin lle ymaelododd Waldo gyda’r Bedyddwyr yn llanc 16 oed, trwy fedydd trochiad, yn 1921, ac yna derbyn y llythyr rhyfeddol hwnnw gan ei dad, yn ei siarsio ynghylch difrifoldeb y cam a gymrwyd ganddo. Wedi cyfnod o ddistawrwydd yn null addoliad y Crynwyr offrymodd y gweinidog presennol, y Parch Huw George, weddi bwrpasol cyn cyhoeddi’r newyddion syfrdanol fod yna gynlluniau ar y gweill i sefydlu Canolfan Waldo ar diriogaeth y capel.

Cyn gadael yr adeilad traddododd y prifardd Eirwyn George hanes ei ran annisgwyl yn angladd Waldo ym mis Mai 1971 pan wisgai dei goch. Wedi cyrraedd Ysgol Ramadeg Arberth y bore hwnnw cafodd ei wysio i gynrychioli’r ysgol yn angladd un o’i chyn-ddisgyblion disgleiriaf. Ni chafodd gyfle i fynd adref i wisgo dillad galar a phan gyrhaeddodd fynedfa Capel Blaenconin cafodd ei wysio ymhellach gan W. R. Evans i fod yn un o’r archgludwyr. Wrth hebrwng pawb o’r capel i’r fynwent gerllaw i weld beddrodau teulu Waldo awgrymodd Cerwyn Davies, cadeirydd Cymdeithas Waldo, ac un o dywyswyr y daith, mai thema’r diwrnod oedd y llinell ‘Cod ni i fro’r awelon pur / O’n hogofau’ o’r gerdd ‘Ar Weun Cas’mael’.

Cyn pen fawr o dro, oherwydd gerwinder y tywydd, roedd eraill yn dyfynnu llinellau eraill o eiddo Waldo ffwl pelt megis, “Yr oedd rhyw ffynhonnau’n torri tua’r nefoedd / Ac yn syrthio’n ôl a’u dagrau fel dail pren” o’r gerdd ‘Mewn Dau Gae’ erbyn cyrraedd Parc y Blawd a Weun Parc y Blawd yng nghwmni Vernon Beynon, Fferm y Cross. Esboniodd Vernon fel yr arferai Waldo a’i rieni dreulio oriau ben bwygilydd yn eistedd o dan dderwen braff yn darllen a myfyrio. O’r profiad o ‘weld goleuni’ a gafodd Waldo yn y fan honno pan oedd yn llanc yr esblygodd y gerdd ‘Mewn Dau Gae’ fel yr esboniodd y prifardd Mererid Hopwood cyn mynd ati i’w darllen. Erbyn cyrraedd Carreg Waldo ar Gomin Rhos-fach, Mynachlog-ddu, roedd y glaw’n pistyllio a’r niwl yn cwato’r mynydd, a’r llinell o’r gerdd ‘Preseli’ yn dod i gof; “ Hil y gwynt a’r glaw a’r niwl a’r gelaets a’r grug”.

Esboniodd y prifardd Tudur Dylan gefndir y gerdd, a gyfansoddwyd pan oedd Waldo’n alltud yn Lyneham ger Swindon, ar adeg y bygythiad i droi’r llethrau cyfagos yn faes ymarfer milwrol parhaol ar ddiwedd y 1940au, cyn iddo fynd rhagddo i’w llefaru gydag arddeliad. Wrth ymgodymu â’r hin aflan canodd Tecwyn Ifan, o dan gysgod simsan ymbarél, cerdd o waith Mererid Hopwood yn dannod y defnydd presennol o erwau Gorllewin Cymru i ymarfer drôns rhyfel neu’r adar angau fel y’u gelwir. Erbyn cyrraedd Cas-mael roedd y tywydd ychydig yn fwy mwynaidd wrth ymweld ag adeilad yr hen ysgol lle bu Waldo’n brifathro dros dro am gyfnod byr cyn symud i Ben Llŷn gyda’i wraig, Linda.

Llefarwyd y gerdd ‘Ar Weun Cas’mael’ gan y prifardd Aled Gwyn wedi iddo esbonio ei chefndir ynghyd â phresenoldeb claddfa arfau rhyfel Tre-cwn gerllaw a oedd yn boen enaid i Waldo. Yng Nghas-mael hefyd, yn yr ysgol newydd, cafwyd darlleniad o’r gerdd ‘Fel Hyn y Bu’ gan Peter John ag esboniad gan Eirwyn George o’i chefndir pan gamgymerwyd Waldo am ysbïwr Almaenig adeg yr Ail Ryfel Byd. Adwaenai Eirwyn y cymeriade lleol oedd yn rhan o’r saga. Wedi ciniawa yng Ngwesty Allt-yr-afon, Cas-blaidd, a chyrraedd Sgwâr Tyddewi, roedd yr haul yn gwenu’n braf. Yno wrth y groes Geltaidd y soniodd Emyr Llewelyn am hanes Waldo’n cychwyn ei ymgyrch etholiadol yn enw Plaid Cymru yn 1959. Trwy gychwyn a gorffen ei ymgyrch yn y ddinas roedd yn cydnabod arwyddocâd Tyddewi fel crud Cristnogaeth y Cymry.

Capel Millin lle disgwyliai Waldo am y wawr

Siwrnai faith wedyn i Aberdaugleddau a chyfnod o dawelwch yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr lle addolai Waldo’n gyson. Paratowyd gwledd arall ar gyfer y pererinion wrth i bawb synhwyro presenoldeb Waldo yn yr adeilad. Aed yn ôl i Hwlffordd a throi oddi ar y ffordd fawr i Gapel M. C. Millin lle’r arferai Waldo gysgodi liw nos cyn mynd yn ei flaen i weld y wawr yn torri ar lan Afon Cleddau gerllaw. Ond cafodd ei gamgymryd am gardotyn a rhag ofn y denai rhagor o’i debyg i’r capel dros nos penderfynwyd cloi’r adeilad. Esboniodd Hefin Wyn fod yr oriau a dreuliai Waldo yno yn rhan o’i addoliad cyn iddo fynd i dystio i doriad gwawr tangnefeddus wrth y Dderwen Gam, toriad gwawr a gyffelybai i’r atgyfodiad o’r newydd. Tebyg ei fod ar drywydd yr un goleuni hwnnw a welodd ym Mharc y Blawd a Weun Parc y Blawd pan oedd yn grwt. Ar lan afon Cleddau soniodd Alun Ifans, trefnydd a chyd-dywysydd y daith, am y modd roedd goleuni rhyfeddol y fangre wedi cydio yn nychymyg yr arlunydd Graham Sutherland hefyd gan danlinellu’r hud a berthyn i’r lle cyn i Wyn Owens lefaru’r gerdd  ‘Y Dderwen Gam’. Erbyn hynny hefyd roedd Wyn wedi llunio englyn i grynhoi hynt y diwrnod; Awn o fyd ein hogofâu, – o ardal

Y Dderwen Gam ar lan Cleddau Ddu

Prysurdeb ein horiau. Munud a gawn mewn dau gae O’r niwl i’r fron o olau. Ymhlith y pererinion roedd Tania George o Bensylfania, UDA, sy’n gyfrifol am y Casgliad Heddwch yng Ngholeg Swarthmore ac sy’n cynnwys deunydd helaeth am Waldo, a Keith Warren o Watford, Cadeirydd Côr Meibion Cymry Llundain, na wna fyth derfynu’r un perfformiad heb ganu trefniant Eric Jones o’r gerdd ‘Tangnefeddwyr’ o eiddo Waldo.

Back to top