Cofio Waldo yn Kimbolton 2011

Cofio Waldo yn Kimbolton 2011

Byddai Waldo Williams wedi cymeradwyo absenoldeb anorfod pen bugail y Preselau o’r seremoni yn Kimbolton ger Huntingdon.

Pe gwyddai’r bardd-heddychwr o Gymro fod yna blac yn cael ei ddadorchuddio yn ei enw ar wal ysgol fonedd lle bu’n athro, byddai wedi mwmial iddo’i hun, ‘beth yw’r dwli sy arnyn nhw nawr?

Pe gwyddai mai mater o gneifio ychydig gannoedd o ddefaid oedd ar waith gan Cerwyn Davies, Cadeirydd Cymdeithas Waldo, byddai wedi annog gweddill y ddirprwyaeth hefyd ‘i sefyll gatre i gneifo’. Nid oedd yn rhan o’i fwriad i fod yn seleb o fath yn y byd.

Ond nid felly y bu wrth i Hefin Wyn ddirprwyo fel llywydd y seremoni ar bnawn Sadwrn, Gorffennaf 2, 2011, yn un o’r ardaloedd sydd gyda’r mwyaf Seisnig o ardaloedd cefn gwlad Lloegr.

Wrth i’r Archdderwydd Jim Parcnest annerch y dorf fechan roedd yna gêm griced ar y gweill ar lawntiau ysblennydd y castell o ysgol. Roedd hi hefyd yn ddiwrnod aduniad blynyddol yr ‘Old Kimboltonians’ wrth i alwyni o de a thomennu o frechdanau gael eu gweini.

Ni wyddai’r Archdderwydd am hyn oll wrth iddo sôn am gyfnod Waldo yn alltud yn Lloegr pan gyfansoddodd rhai o’i gerddi mwyaf cenedlaetholgar. Yn eu plith roedd ‘Preseli’ (a gyfansoddwyd pan oedd wedi symud i Lyneham ger Swindon) a ysgogwyd gan y bygythiad ar y pryd ym mis Tachwedd 1946 i feddiannu dros 200 o ffermydd y Preselau yn feysydd ymarfer milwrol. Darllenodd y gerdd yn ogystal â chyfieithiad Tony Conran ohoni.

Y plac a ddaorchuddiwyd yn Kimbolton

Cafwyd cyfraniad gan John Greening, athro Saesneg yr ysgol, sy’n fardd toreithiog ei  hun. Darllenodd gerdd o’i waith yn dychmygu ymateb Waldo i’r hyn a oedd yn digwydd o’i amgylch, pan oedd yn lletya yn West Perry gerllaw ar derfyn yr Ail Ryfel Byd, a phan oedd nifer o feysydd awyr yn yr ardal a bwriad ar y gweill i greu llyn anferth i ddigoni gofynion y dinasoedd.

Mynnodd fod Waldo’n fardd o statws Ewropeaidd a mynegodd y gobaith y byddai codi’r gofeb yn Kimbolton yn fodd o ledaenu ei enw ac i annog mwy o bobl i ddarllen ei waith am fod ei gerddi’n codi uwchlaw cyffredinedd llawer o farddoniaeth Saesneg.

Un o’i gyn-ddisgyblion oedd Mick Rich, cyfreithiwr wedi ymddeol erbyn hyn. O wybod am yrfa ddiweddarach Waldo dywedodd ei fod wedi dyfalu droeon beth fyddai wedi digwydd pe bai yntau yn ei gynrychioli yn un o’r achosion llys hynny pan wrthodai dalu ei ddyledion treth incwm mewn gwrthwynebiad i ryfela. Holai beth fyddai wedi medru ei wneud i liniaru’r ddedfryd ond gan ddod i’r casgliad na fyddai Waldo am gynnig esgusodion am ei fod yn cymryd cyfrifoldeb llwyr am ei weithred.

Fe’i cofiai fel athro Lladin am ei aeliau trwchus a’i ddull o godi’i freichiau mewn rhwystredigaeth pan na lwyddai’r disgyblion i feistroli rhyw agwedd o’r gwaith neu am ei fod yntau’n methu’n deg â throsglwyddo’r hyn a oedd yn gwbl ddealladwy iddo fe.

Soniodd y llywydd am ddisgrifiad Waldo ohono’i hun yn ystod y cyfnod hwn fel hydd clwyfedig wedi gadael yr hyddgant a hynny o ddewis yn hytrach nag o orfodaeth wedi iddo golli ei wraig wedi cyfnod byr o briodas.

Pwysleisiodd yr Archdderwydd ynghynt nad dianc i anghofio am Linda a wnaeth y bardd yn ei alar a’i hiraeth ond symud i’r ardal i ddyfnhau ei werthfawrogiad ohoni a’i derbyn fel ei ysbrydoliaeth megis aderyn bach uwchben drain y byd.

Dadorchuddiwyd y gofeb ei hun gan Teifryn Williams, un o neiaint Waldo, gyda

Neiaint Waldo, Teifryn ar y chwith a Gerwyn Williams ar y dde

chymorth Mick Rich. Dywedodd Teifryn eu bod fel aelodau o’r teulu yn ymwybodol o statws eu hwncwl fel bardd ond eu bod nhw’n ei gofio’n bennaf fel wncwl annwyl a oedd yn giamster ar wneud tarten ‘fale.

Yn ben ar y mwdwl cafwyd gair gan Nora Bird, Cadeirydd Cymdeithas Hanes Kimbolton, ac heb ei chefnogaeth a’i brwdfrydedd hi ni fyddai’r holl drefniadau’n bosib.

Wrth gloi’r seremoni proffwydodd Hefin Wyn y bydd yna bererinion lu’n ymweld â Kimbolton yn y dyfodol i weld y plac unigryw ac ymhlith y cyntaf o’r rheiny fydd bugail y Preselau, Cerwyn Davies.

Terfynwyd trwy ddatganiad nerthol o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, gyda chymorth aelodau o Gôr Meibion Huntingdon a Chôr Meibion Cymry Llundain, sydd bob amser yn canu cyfansoddiad Waldo, ‘Tangnefeddwyr’ yn eu cyngherddau.

Back to top