Achlysuron Diweddar

Darlith yr Athro M. Wynn Thomas 2016

Mewn darlith a draddodwyd ym mhentref Rhoscrowdder, ger Penfro, gan yr Athro M. Wynn Thomas, ar nos Iau 26 Mai, ymdriniwyd am y tro cyntaf erioed yn gyhoeddus ag effaith yr arswyd a deimlai’r bardd Waldo Williams o ganlyniad i amhwylledd ei brifathro o dad. Oherwydd salwch John Edwal y bu’n rhaid i’r teulu symud o Hwlffordd i Fynachlog-ddu er mwyn iddo adennill ei nerth yn awel y bryniau fel sgwlyn ysgol tipyn llai ei maint. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi marwolaeth ei rieni, bu rhaid i Waldo dderbyn triniaeth i’w chwalfa nerfol ei hun.

Darllenwch Mwy